Annwyl Gyfeillion

Diolch am y cyfle, ar ran Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith, i wneud rhai sylwadau ar gynnwys y llythyr ymateb yr ydych chi wedi ei dderbyn gan y Gweinidog Addysg. Gobeithio y gall y wybodaeth hon fod o ddefnydd i chwi wrth ystyried  ymateb y llywodraeth i'r ddeiseb ac i'ch awgrym chwi y dylid ystyried sefydlu proses apeliadau'n erbyn penderfyniadau i gau ysgolion. Byddem yn barod iawn ar unrhyw adeg i gynnig i chwi tystiolaeth lafar ac ateb cwestiynau.

Yn gyntaf, hoffem fynegi ein gwerthfawrogiad fod y Gweinidog wedi cymryd o ddifri yr achos a fu'n sail i'r galwad cyffredinol yn y ddeiseb trwy ofyn i'w swyddogion gynnal ymchwiliad i'r cŵyn na wnaeth Cyngor Ynys Môn gadw at ofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion wrth benderfynu cau Ysgol Gymunedol Bodffordd. Fe allsai'r Gweinidog fod wedi cuddio tu ôl i ofyniad i ni gwyno'n gyntaf at Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac, erbyn fod dyfarnu cŵyn felly, buasai'r weithred o gau Ysgol Bodffordd wedi bod yn fait accompli. Mae'r Gweinidog yn haeddu clod am gymryd cyfrifoldeb am y mater hwn.

Yn ail, derbyniwn yn llwyr osodiad y Pwyllgor Deisebion nad mater uniongyrchol i'r Pwyllgor yw tynged ac amgylchiadau penodol un ysgol. Yn hytrach, cyfeiriwn aty broses ymgynghorol yng nghyd-destun yr ysgol arbennig hon i ddangos y pwynt mwy cyffredinol (sydd YN destun i'r ddeiseb) nad yw'r drefn bresennol yn gweithio'n foddhaol. Anghytunwn yn llwyr ag un frawddeg benodol yn llythyr y Gweinidog atoch, sef

"Mae’r trefniadau wedi’u sefydlu’n dda ac nid oes bwriad i’w newid ar hyn o bryd."

Mae gweithrediad y broses ymgynghorol yn achos Ysgol Bodffordd yn dangos fod y drefn bresennol o ran disgwyl fod Awdurdodau Lleol yn glynu wrth ganllawiau'r Côd Trefniadaeth Ysgolion yn gallu cael ei hanwybyddu neu, fan leiaf, fod "meddylfryd ticflwch" yn golygu nad ydynt yn cymryd eu dyletswyddau statudol dan y Côd o ddifri. Gan nad oes trefn apelio'n erbyn penderfyniadau, mae'n amlwg fod swyddogion lleol yn credu y gallant ddefnyddio'r un hen ystrydebion (mewn ymarferiad "cut & paste") ym mhob achos. Gobeithiwn y bydd y Gweinidog yn yr achos hwn yn cefnogi'n cŵyn ac y bydd hyn yn golygu newid diwylliant ymhlith swyddogion lleol.

Derbyniwn fodd bynnag nad lle eich pwyllgor chwi yw ceisio (ail)ddyfarnu ar achos ysgol unigol, dim ond ystyried a oes tystiolaeth yma fod angen i lywodraeth weithredu i ddiwygio'r drefn er mwyn sicrhau fod Awdurdodau Lleol yn gorfod cadw at ofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion. I'r perwyl hwn, atodaf destun llawn ein cŵyn at y Gweinidog Addysg sy'n dangos fod yr Awdurdod Lleol hwn wedi anwybyddu dyletswyddau penodol iawn o dan y Côd, a'i bod felly'n agored dan y drefn bresennol i unrhyw Awdurdod Lleol beidio â chymryd eu dyletswyddau o ddifri gan nad oes sancsiynau uniongyrchol ar gael i'w gweithredu.

O grynhoi seiliau ein cŵyn, mynnwn fod Cyngor Ynys Môn wedi peisio â chymryd o ddifri ei ddyletswyddau dan yr argraffiad (2013) o'r Côd a oedd yn llywodraethol ar y pryd trwy -

1) Peidio â gwerthuso'n llawn opsiynau amgen wrth ystyried y cam difrifol o gau ysgol a oedd yn llawn, a hynny'n groes i ddymuniadau llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned leol. Yn eu hymateb i'n cŵyn, cred y Cyngor eu bod wedi cyflawni eu dyletswydd trwy grybwyll yn gyffredinol geiriau fel "ffederasiwn" mewn dogfennau blaenorol. Dyma "feddylfryd ticflwch". Mynnwn mai bwriad y rhai a luniodd y Ddeddf a'r Côd dilynol oedd y dylai Awdurdodau Lleol werthuso'n fanwl manteision ac anfanteision modelau penodol o ffederasiynau ac ysgolion aml-safle a allent fod yn hyfyw yn yr achos dan sylw fel opsiwn amgen i gau ysgol. Ni bu unrhyw ymdrech o gwbl i wneud hyn.

2) Peidio ag ystyried yn gydwybodol atebion amgen a gynigwyd mewn ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus (gofyniad arall yn ôl y Côd). Cynigiodd Cymdeithas yr Iaith fodel penodol o "Ffederasiwn Cefni" - ffederasiwn rhwng yr ysgol uwchradd a'r ysgolion cynradd yn yr union ardal a oeddent yn ei "bwydo". Dadleuon ni y gellid creu uned addysgol gref, rhoi profiadau addysgol eang i ddisgyblion, a sicrhau llawer o arbedion ariannol o resymoli gweinyddiaeth, arweinyddiaeth ac adnoddau dynol a materol mewn modd felly. Nid yn unig na wnaeth swyddogion Ynys Môn werthuso'r model hwn, ond wnaethon nhw ddim hyd yn oed crybwyll y mater yn eu hadroddiad ar ymatebion i'r Pwyllgor Gwaith a gymerodd y penderfyniad i gyhoeddi Hysbysiad Statudol i gau Ysgol Bodffordd.

3) Peidio â chynnal asesiad ystyrlon o effaith cau'r ysgol ar y gymuned leol - dyletswydd arall yn ôl y Côd. Cynhyrchwyd pwt o adroddiad generig a phasiodd y Pwyllgor Gwaith gynnig y byddent yn trefnu cyfarfod â'r gymuned leol i weld a ellid cadw rywsut yr unig ganolfan gymunedol sydd yn rhan hanfodol o adeiladau'r ysgol. Nid yw penderfyniad i gynnal cyfarfod yn gyfystyr ag asesu effaith cau ysgol ar y gymuned leol.. Mae gwir berygl fod gofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion yn mynd yn destun gwawd.

4) Ymateb rhywrai wrth gwrs yw fod y penderfyniad hwn wedi cael ei gymryd dan ofynion yr hen (argraffiad 2013) o'r Côd Trefniadaeth Ysgolion, a bod argraffiad newydd (tachwedd 1af 2018) y Côd yn sefydlu trefn newydd. Gwrthodwn y syniad hwn. Mae'r 3 diffyg uchod yn fethiant i gydymffurfio â'r hen Gôd a oedd yn weithredol ar y pryd, ac os na bu raid i Gyngor gadw at yr hen gôd , pam y dylid credu y byddent chwaith yn cadw at y Côd newydd ? Yn wir y mae'r un Awdurdod Lleol (Cyngor Ynys Môn) wedi torri prif ofyniad y Côd newydd o fewn wythnos i'w gyhoeddi. Prif ddatblygiad y Côd newydd (a ddaeth i rym ar 1/11/18) yw y dylai fod "rhagdyb o blaid cynnal ysgolion gwledig". Ond o fewn dyddiau, yr oedd Cyngor Ynys Môn wedi cyhoeddi adroddiad cychwynnol ar y posibiliad o ad-drefnu ysgolion yn ardal Amlwch, a'r adroddiad eto'n son am gau ysgolion a chanoli addysg fel polisi llwyddiannus yn y sir ! Does dim unrhyw newid na rhagdyb o blaid chwilio pob dull posibl o gynnal ysgolion gwledig).

Ein dadl yw fod y dystiolaeth yn dangos yn glir nad yw'r drefn bresennol yn gweithio, a bod cyfiawnhad i ofyniad y ddeiseb y dylai'r llywodraeth gymryd camau i sicrhau fod y Côd Trefniadaeth Ysgolion yn cael ei weithredu. Pa gamau felly fyddent yn agored i'r Gweinidog Addysg eu cymryd ?

Derbyniwn na all y Gweinidog (yn gyfreithiol) sefydlu trefn apelio heb newid mewn deddfwriaeth. Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd gennym, byddem yn argymell fod llunio deddfwriaeth newydd, ond gall hyn gymryd peth amser e.e. efallai yr hoffai'r Gweinidog ysytired yr un pryd sefydlu Byrddau Llywodraethol integredig fesul dalgylch ysgol uwchradd er mwyn datblygu csyniad ffederasiynau'n bellach - syniad a gynigwyd gan y cyn-AC Gareth Jones. Yr ydym hefyd yn gyffredinol o blaid trefn sy'n golygu fod prif benderfyniadau'n cael eu cymryd yn lleol heb fod llywodraeth ganolog yn ailedrych yn ddyblygus ar bob polisi. Ond rhai i Awdurdodau Lleol weithredu tu fewn i fframnwaith cyfiawn o brosesau. Argymellwn felly y dylid cyflwyno deddfwriaeth yn y dyfodol i sefydlu apêl yn unig ar sail methiant i ymgymryd yn gydwybodol â phroses, yn hytrach nag ailedrych ar benderfyniadau unigol eu hunain. Byddai sefydlu tren apelio o'r fath yn llawer mwy eglur a thryloyw na gorfod dibynnu ar gysyniad haniaethol fel cwyno fod Awdurdod Lleol "yn cyflawni methiant addysgol sylfaenol" (Deddf 2013).

Yn y cyfamser, anogwn y Gweinidog i anfon arwydd clir at Awdurdodau Lleol fod yn rhaid iddynt gadw at ofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion trwy gadarnhau cwynion lle bo sail gadarn i gwynion o'r fath a thrwy ymyrryd yn ddigon buan yn y broses ymgynghorol i atgoffa Awdurdodau Lleol o'u cyfrifoldebau.

Yn gywir

Ffred Ffransis

ar ran Grŵp Ymgyrch Addysg, Cymdeithas yr Iaith